{JAVASCRIPT}

TRYSOR CUDD DYFFRYN CONWY
Y dechreuad
Os ewch chi i stryd fach gysgodol yn hen dref farchnad Llanrwst fe gewch chi hyd i adeilad hynafol Amgueddfa Elusendai Llanrwst. Codwyd yr Elusendai gwreiddiol yn 1610 gan Syr John Wynne o Wydr fel hafan a chysur i hyd at ddeuddeg o ŵyr tlawd y dref ac, yn ddiweddarach, merched hefyd. Defnyddwyd yr Elusendai i'r pwrpas yma am fwy na 360 o flynyddoedd tan 1976 pan gawsant eu cau.
Am y pum mlynedd a hugain nesaf fe fu'r Elusendai'n wag ac yn raddol ddirywio nes iddyn nhw gael eu hachub gan waith Elusen John Wynne o Wydyr. Mae adeilad yr Elusendai'n un o bwys hanesyddol, wedi ei adeiladu yn y dull Jacobeaidd, ac o dipyn i beth fe lwyddwyd i godi'r arian angenrheidiol i'w adfer. Ffyrfiwyd Ymddiriedolaeth ar rent isel a'i galluogodd i sefydlu Amgueddfa Gymunedol. Agorwyd yr Amgueddfa yn 2002 gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.
Yr Amgueddfa heddiw
Roedd Llanrwst yn yr 17eg a'r 18eg ganrif yn dref farchnad fywiog a phrysur ac yn cynnal sawl diwydiant. Roedd yma argraffdai, tanws yn cynchyrchu lledr, bragdy cwrw a gweithdai dodrefn, telynau a chlociau. Roedd yna seiri olwynion a throliau, a chrefftwyr o bob math a sgil yn cyflenwi anghenion trigolion cymharol gefnog Llanrwst yr oes. Mae Amgueddfa Elusendai Llanrwst yn rhoi cyfle i'r ymwelwydd gael cipolwg ar y gorffennol difyr hwn drwy'r arddangosfeydd amrywiol sy'n cael eu trefnu yno o wrthrychau o'r cyfnod.
Atyniadau hanesyddiol eraill
Fewn llai na munud i ddrws yr Amgueddfa mae Eglwys Sant Crwst. Codwyd yr Eglwys wreiddiol yn y 6ed ganrif. Fe godwyd adeilad newydd ar y safle yn 1470 ac un arall eto yn 1670. Un o nodweddion arbennig yr eglwys ydi'r sgrin grog yno a gerfiwyd yn hynod o gain. Un arall ydi rhan isaf arch garreg Llywelyn Fawr. Mae hon i'w gweld yn Nghapel Gwydyr - sydd ei hun yn dyddio o gyfnod y Dadeni. Ewch wedyn ar hyd glan afon Conwy at y Bont Fawr, a adeiladwyd yn 1636 i gynllun y pensaer enwog Indigo Jones, yn ôl y sôn. Wedi croesi Pont Fawr fe gyrhaeddwch chi Tu Hwnt i'r Bont, y caffi a godwyd yn wreiddiol fel Llys Barn. A rhyw hanner milltir ymhellach ar hyd Ffordd Gwydyr, catref noddwr gwreiddiol yr Elusendai.
Swyddog Datblygu: Daniel Amor
Ffôn: 01492 642550
Ebost: info@llanrwstalmshouses.wanadoo.co.uk
Sieciau yn daladwy i:
Amgueddfa Elusendy Llanrwst
Cyfeiriad:
Amueddfa Elusendy Llanrwst
1-12 Church Street
Llanrwst
CONWY
LL26 OLE
Gwirfoddolwyr
Diolch yn fawr i ein gwirfoddolwyr am eich holl help. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa'r Elusendai yn Llanrwst, cysylltwch gyda ni. Awyrgylch braf a chyfeillgar.
Benthyciadau
Diolch yn fawr i bawb sy'n cyfrannu ir gasgliad yr Amgueddfa.
Dylunio Gwefannau Gogledd Cymru - Livetech