- $errorCode = 76
xml_error_string() = Mismatched tag
xml_get_current_line_number() = 173
xml_get_current_column_number() = 12
xml_get_current_byte_index() = 8390
Yn Nhafarn y Black Boy, Caernarfon yng Ngogledd Cymru, rydym wedi bod yn cynnig llety a bwyd o’r radd flaenaf am fwy na phum can mlynedd. Mae’r dafarn wedi’i lleoli yng nghanol Tref Fwrdeistref Frenhinol Caernarfon, o fewn muriau canoloesol y dref, ac mae gan y gwesty ddigonedd i’w gymeradwyo gyda thanau agored tanbaid, distiau derw a’r holl gymeriad Cymreig sy’n nodweddiadol o’i oed a’i leoliad.
Dim ond munud i ffwrdd ar droed mae castell enwog Caernarfon sy’n dyddio o’r 13eg ganrif; Safle Treftadaeth Byd godidog sy’n llawn presenoldeb. Naw can llath ymhellach draw mae man cychwyn Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n mynd â chi ar daith drwy olygfeydd rhyfeddol Parc Cenedlaethol Eryri.